blogjiwjiw
Ooooops! SN yn ennill yn hawdd. Ail hanner gwell gan Gymru, ond siomedig oedd cicio Cymru. Mae angen Henson neu Hook i ddechrau y gem. Mae'r ddau yn cicio yn arbennig o dda. Gwell lwc tro nesaf bois
Ooooops! SN yn ennill yn hawdd. Ail hanner gwell gan Gymru, ond siomedig oedd cicio Cymru. Mae angen Henson neu Hook i ddechrau y gem. Mae'r ddau yn cicio yn arbennig o dda. Gwell lwc tro nesaf bois
Oooops wedi bod yn anwybyddu fy mlog yn ddiweddar!
Gem ddifyr heddiw ma, pwy sydd am ennill tybed?
Dwi yn meddwl fydd Cymru yn fuddugol.
Y sgor........Cymru 36 SN 21.
Gawn nhi weld heno ma
Dwi am fynd i'r bwcis i weld be ydi'r "odds"
Ian Evans wedi bod yn hogyn drwg unwaith eto, wedi ei wahardd am 8 wythnos. Hen bryd iddo ddysgu rheoli ei "dempar".
Siomedig oedd perfformiad Cymru neithiwr, ond roedd sawl un yn y tim yn hollol ddibrofiad ar lefel rhwngwladol.
Ooooooops! Proffwyd hollol anghywir am y gem rhwng Y Gweilch a'r Sgarlets. Gwell lwc tro nesaf
Es i Stadwim Morfa {Liberty}, stadwim hyfryd mae rhaid dweud
Gem fawr foru, pwy fydd yn fuddugol? Y Sgarlets buaswn i yn tybio. Y sgor fydd......um 32-10 i'r Sgarlets.
Beth fydd y sgor foru? Dwin tybio fod Cymru am ennill a'r sgor fydd Cymru 45 Yr Alban 17.
Y gemau eraill: FFrainc 37 Iwerddon 12; Lloegr 15 Yr Eidal 42!
Dwi ddim yn cytuno efo hyn. Tri tim rhanbarthol? Efallai buasai'n well chware llai o gemau drwy'r tymor. Roedd sawl anaf yn y gemau rhwyngwladol ar ddiwedd flwyddyn diwethaf. Dwi ddim yn meddwl fod tri tim yn ddigon, mae rhaid cael pedwar oliaf er mwyn cael tim rhyngwladol llwyddiannus yn y dyfodol.